Cyhuddo dyn wedi damwain ger yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru heb ofal, gyda gormod o alcohol yn ei gorff.
Bu farw Kieran Arnold, o Cymau ger Wrecsam, mewn gwrthdrawiad ym Mhontblyddyn ger yr Wyddgrug ar Fehefin 17.
Mae dyn o Bontblyddyn wedi ei gyhuddo o achosi ei farwolaeth.
Bydd yn ymddangos o flaen llys ar Hydref 21.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Land Rover Discovery arian a Ford Transit gwyn ac oren ar yr A541 rhwng Pontblyddyn a Chaergwrle.
Bu farw Kieran Arnold o'i anafiadau.
Ar y pryd, dywedodd mam Kieran, Donna, bod "Kieran yn fab gwych i David a finnau ac yn frawd mawr annwyl i Aaron a Steffan."
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth a chefnogaeth drwy gydol y digwyddiad ofnadwy yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2013