Gwagio adeilad oherwydd amonia
- Cyhoeddwyd

Gall amonia achosi niwed parhaol i'r ysgyfaint os yw'n cael ei anadlu
Cafodd deuddeg aelod o staff wedi gorfod gwagio adeilad yn Aberystwyth oherwydd bod amonia yn gollwng yno.
Roedd yn rhaid i griwiau tân ddefnyddio offer anadlu er mwyn gallu mynd i mewn i'r adeilad, wedi iddyn nhw gael eu galw i Glinig Gorwelion, Ffordd Llanbadarn ychydig wedi 9am.
Darganfuwyd mai dwy oergell oedd ffynhonnell yr amonia.
Defnyddiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru offer arbenigol er mwyn cael gwared ar y nwy o'r adeilad.
Ni chafodd neb ei niweidio - fe gafodd ambiwlans ei galw ond nid oedd ei hangen yn y diwedd.
Bwrdd Iechyd Hywel Dda sydd yn gyfrifol am redeg ar yr adeilad.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol