Achos Wrecsam: Yn ddieuog o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafodd Glynis Solmaz ei darganfod yn farw gydag anafiadau i'w phen a'i hwyneb
Mae rheithgor wedi penderfynu bod dyn, oedd yn wynebu cyhuddiad o lofruddio menyw 65 oed, yn ddieuog.
Roedd Christopher Curran o Frymbo yn un o ddau ddyn oedd yn wynebu cyhuddiad o ladd Glynis Solmaz yn ei chartre' yn y dre'.
Roedd wedi pledio'n euog i gynllwynio gyda thri dyn arall i ddwyn o'i chartre'.
Roedd rheithgor Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi ystyried am dros naw awr.
Mae'r barnwr Mr Ustus John Griffiths-Williams wedi gyrru'r rheithgor adref.
Fe fyddan nhw'n dychwelyd fore Iau i ystyried eu dyfarniad yn achos y diffynnydd arall Alexandros Wetherill.
Mae Wetherill wedi cyfaddef achosi marwolaeth Mrs Solmaz ac wedi pledio'n euog i ddynladdiad.
Ond mae wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Pan fydd y rheithgor yn penderfynu fe fydd y barnwr yn dedfrydu Wetherill, 24 oed o Wrecsam, naill ai am lofruddiaeth neu ddynladdiad ac o gynllwynio i ddwyn.
Bydd hefyd yn dedfrydu Curran, 34 oed, cyn fab-yng-nghyfraith Mrs Solmaz, Christopher Natt, a David Lovell am gynllwynio i ddwyn o'i chartref gan fod y pedwar wedi pledio'n euog i hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013
