Tirlithriad yn cau ffordd rhwng Beddgelert a Phenygwryd
- Cyhoeddwyd

Mae'n debyg mai glaw trwm oedd wedi achosi'r tirlithriad ar ffordd yr A498 rhwng Beddgelert a Phenygwryd ddydd Mercher
Bu'n rhaid cau rhan o ffordd yr A498, rhwng Beddgelert a Phenygwryd, ddydd Mercher yn dilyn tirlithriad.
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, cafodd y lôn ei chau i'r ddau gyfeiriad, wrth i swyddogion ddefnyddio offer arbenigol i symud pridd a cherrig.
Yn y cyfamser mae arbenigwyr yn cynnal ymchwiliad diogelwch o'r safle.
Mae'n debyg mai'r glaw trwm diweddar a achosodd y tirlithriad, a chredir fod hyd at 30 tunnell o bridd wedi disgyn lawr.
Roedd disgwyl i'r ffordd fod ynghau am rai oriau.