A470 wedi ailagor wedi damwain ger Llandefalle
- Cyhoeddwyd
Mae'r A470 wedi ailagor wedi damwain ddifrifol ym Mhowys.
Roedd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Llyswen a Llanfilo wedi damwain tua 9.30 fore Mawrth.
Cafodd criwiau tân o Aberhonddu a Thalgarth eu galw i'r safle ger Llandefalle lle oedd tri'n sownd mewn cerbydau.
Roedd rhaid defnyddio offer arbennig i'w rhyddhau.
Gwrthdrawiad
Cafodd y ffordd ei chau am oriau.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi cael galwad i ddigwyddiad oherwydd gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd am 9.34yb.
Cafodd cerbydau brys a dau hofrennydd eu hanfon.
Dywedodd llefarydd: "Cafodd un dyn ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni, cafodd un ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty'r Sir yn Henffordd a chafodd trydydd dyn ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe."