Hywel Dda: Llawdriniaethau i barhau
- Cyhoeddwyd

Bydd llawdriniaethau yn parhau i gael eu cynnal ym Mronglais dros y gaeaf
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi y bydd llawdriniaethau orthopedig yn parhau i gael eu cynnal mewn tri ysbyty yno dros y gaeaf.
Roedd y bwrdd wedi dweud eu bod nhw'n ystyried gohirio triniaethau orthopedig sy'n cael eu trefnu o flaen llaw er mwyn eu galluogi i ymdopi gyda'r cynnydd mewn achosion brys dros y gaeaf.
Ond mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y bwrdd y bydd llawdriniaethau'n parhau, er y bydd llai ohonyn nhw'n cael eu cynnal o'i gymharu â'r arfer.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud nad oedd penderfyniad terfynol wedi ei wneud ynglŷn â gohirio llawdriniaethau.
Newid eu meddwl?
Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd: "Un elfen o'r cynllunio at y gaeaf oedd ystyried triniaethau orthopedig sy'n cael eu trefnu o flaen llaw.
"Gallwn gadarnhau ein bod, yn amodol ar gymeradwyaeth y bwrdd, yn bwriadu parhau gyda'r llawdriniaethau yma ar bob un o'r tri safle sef yn Ysbyty Tywysog Philip, Llwyn Helyg a Bronglais dros y gaeaf, ond gyda llai o gapasiti.
"Rydym wedi dod i'r penderfyniad yma wedi trafod yn helaeth gyda staff."
Yn wreiddiol roedd y bwrdd wedi dweud bod Ysbyty Glangwili yn Sir Gâr yn un lle byddai triniaethau'n cael eu gohirio ond doedd datganiad y bwrdd iechyd ddydd Gwener ddim yn cyfeirio at yr ysbyty yno.
Mae'r BBC wedi cysylltu gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda am eglurhad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd21 Hydref 2013
