Ymosodiad ym Mangor: Heddlu yn rhyddhau lluniau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Heddlu yn chwilio am y dyn yma
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau lluniau CCTV o ŵr mae nhw'n chwilio amdano mewn perthynas ag ymosodiad ar filwr y tu allan i glwb nos ym Mangor fis diwethaf.
Digwyddodd yr ymosodiad tu allan i glwb nos Peep yn y ddinas i Warchodfilwr Cymreig 19 oed yn oriau man bore Iau, Hydref 24.
Meddai'r Cwnstabl Eirian Pritchard: "Ychydig wedi 3:00am roedd y gŵr yn cerdded allan o'r clwb nos pan ymosodwyd arno gan ddyn arall yn agos i ddrws yr adeilad.
"Dyrnwyd ef yn ei wyneb gan achosi nifer o anafiadau yn cynnwys torri asgwrn ei ên."
Roedd rhaid iddo fynd i'r ysbyty am driniaeth.
Ychwanegodd y Cwnstabl Pritchard: "Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am fwy o dystion i'r digwyddiad ac rydym yn gobeithio wrth ryddhau'r lluniau CCTV, bydd rhai yn cofio'r digwyddiad a all helpu ni i adnabod yr ymosodwr."
Angen Tystion
Disgrifir yr ymosodwr fel dyn gwyn yn ei ugeiniau cynnar, chwe troedfedd o daldra gyda chorff tenau, gyda gwallt tywyll byr sy'n dewach ar dop ei ben.
Roedd yn gwisgo top llewys hir tywyll, siaced gyda hwd lliw golau a throwsus lliw beige.
Hoffai'r heddlu glywed gan bobl oedd yn yr ardal ar yr amser yn enwedig rhai oedd yn mynd adref yn dilyn noson allan sydd efallai wedi gweld y digwyddiad.
Cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu'n ddi-enw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod RC13175564.