John Griffiths: Adolygiad o wasanaethau llyfrgell Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r adolygiad gyflwyno ei argymhellion cyn diwedd gwanwyn 2014
Wrth i nifer o gynghorau lleol dorri ar wasanaethau er mwyn gwneud arbedion ariannol, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cynnal adolygiad o wasanaethau llyfrgell ar draws y wlad.
Yn ôl y Gweinidog Diwylliant John Griffiths, bydd y gwaith yn cael ei gomisiynu yn y flwyddyn newydd.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi cylch gorchwyl yr adolygiad yn fuan, ac mae disgwyl i'r argymhellion gael eu cyhoeddi cyn diwedd gwanwyn 2014.
Mae'n gyfnod anodd i awdurdodau lleol ac mae yna bwysau mawr ar gynghorau, sy'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ymateb i'r heriau ariannol yn sgil toriadau i'w cyllid.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd y corff sydd yn cynrychioli llyfrgelloedd, y CILIP, lythyr at y gweinidog yn mynegi pryder am effaith unrhyw doriadau ar lyfrgelloedd Cymru.
'Cynnig cyfleoedd'
Dywedodd Mr Griffiths ei fod yn "benderfynol o gydweithio â chyrff eraill i ddatblygu fframwaith strategol cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau llyfrgell i Gymru yn y dyfodol."
Meddai: "Mae angen llyfrgelloedd arnom yn fwy nag erioed er mwyn cynnig cyfleoedd i hyrwyddo llythrennedd, darparu mynediad i wasanaethau digidol di-dâl a chynnig lleoedd cyhoeddus diogel lle gall y gymuned gyfan gwrdd."
Yn ôl Mr Griffiths, dim ond Cymru sydd â fframwaith strategol ar gyfer datblygu gwasanaethau llyfrgell ac mae'r strategaeth bresennol, Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, yn parhau tan 2016.
Awgrymodd bod yna fwy o le i awdurdodau lleol ystyried cyfuno gwasanaethau llyfrgell gyda gwasanaethau eraill.
'£20 miliwn'
Ychwanegodd: "Ers 2004 mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £20 miliwn er mwyn cefnogi ein llyfrgelloedd lleol, datblygu gwasanaethau newydd a moderneiddio cyfleusterau cymunedol i ddenu cynulleidfaoedd newydd.
"Yn gynyddol mae llyfrgelloedd wedi'u cydleoli â gwasanaethau cymunedol eraill, sy'n gwella mynediad a rhannu'r costau.
"Mae Llywodraeth Cymru'n parhau'n flynyddol i fonitro perfformiad awdurdodau lleol, o ran darparu gwasanaethau llyfrgell trwy Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. O ganlyniad, mae'r defnydd o lyfrgelloedd yng Nghymru wedi mwy 'na dal ei dir o'i gymharu â gweddill y DU dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.
"Yn y dyfodol agos, gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, byddaf yn lansio cynllun peilot i ganiatáu i bob plentyn ymaelodi â'i lyfrgell leol. Rydym eisiau i blant heddiw a chenedlaethau'r dyfodol barhau i elwa ar lyfrgelloedd rhagorol."
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn wasanaeth statudol dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.
Esboniodd Mr Griffiths mai nod yr adolygiad "fydd dod o hyd i fodelau cynaliadwy sy'n sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosib ar gyfer cydweithio, meithrin partneriaethau ac arloesi."
"Fy mwriad yw sicrhau bod pobl ar draws Cymru'n elwa ar wasanaeth llyfrgelloedd cadarn a chynaliadwy, sy'n ymateb i anghenion pobl Cymru," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012
