Enwi dynes o'r Bontfaen fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am fwy o wybodaeth am y ddamwain dros y penwythnos
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn ardal y Bont-faen dros y penwythnos.
Bu farw Jenny Barrett, 74 oed o'r Bont-faen ar Ffordd Sain Tathan rywbryd rhwng 5yh nos Sadwrn, Tachwedd 30 a 11.35yb ddydd Sul, Rhagfyr 1.
Roedd hi'n teithio o gyfeiriad Y Barri mewn Ford Fiesta gwyrdd.
Dywedodd ei theulu: "Roedd Jenny yn ddynes fywiog ac annibynnol oedd yn gwneud y mwyaf o'i hymddeoliad.
"Roedd hi'n mwynhau chwarae 'bridge' ac yn aelod o Brifysgol y Drydedd Oes.
"Mae'r hyn ddigwyddodd yn hynod o annisgwyl ac nid oes modd disgrifio'r golled."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 02920 633438 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2013
