Priodasau hoyw i ddechrau ym mis Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb Maria Miller y byddai cyplau hyd a lled y wlad wrth eu boddau
Bydd priodasau hoyw yn dechrau o fis Mawrth 2014, wedi cyhoeddiad gan Weinidog Cydraddoldeb llywodraeth y DU, Maria Miller.
Roedd disgwyl y byddai'r priodasau hoyw cyntaf yn digwydd yn yr haf, ond daeth cadarnhad y bydd hawl cynnal priodas hoyw o Fawrth 29 ymlaen.
Bydd angen i gyplau sydd am fod ymysg y cyntaf i briodi gofrestru erbyn Mawrth 13.
Daw'r cyhoeddiad wedi i ddeddfwriaeth ddadleuol llywodraeth y DU gael ei basio ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Ms Miller: "Priodas yw un o'n arferion mwyaf pwysig, ac o Fawrth 29 2014 bydd ar gael i bawb, ac mae'r ffaith eu bod nhw yn caru rhywun o'r un rhyw neu o ryw arall yn ddibwys.
"Mae hwn yn gam arall mewn esblygiad priodasau a dwi'n gwybod y bydd cyplau hyd a lled y wlad wrth eu boddau o fedru cynllunio eu dyddiau nhw a dangos eu cariad ac ymrwymiad i'w gilydd."
Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi'n "gweithio'n galed" i sicrhau bod cyplau sydd am newid eu partneriaeth sifil i briodas - a chyplau priod sydd am newid eu rhyw yn gyfreithiol - yn gallu gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn nesaf.
O fis Mehefin, bydd hawl i bobl gynnal priodasau hoyw mewn rhai swyddfeydd is-genhadon, gwersylloedd milwrol dramor a chapeli milwrol.
Mae elusen Stonewall, sy'n gweithio am gydraddoldeb, yn dweud bod y cyhoeddiad yn newyddion hanesyddol.
"Mae'r cam hanesyddol hwn yn golygu, am y tro cyntaf, bod pob person hoyw yng Nghymru a Lloegr yn cael mwynhau'r un hawliau a'i ffrindiau a theulu heterorywiol," meddai'r prif weithredwr, Ben Summerskill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd21 Mai 2013
