Llywodraeth Cymru i helpu cyn weithwyr Remploy yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Penderfynodd Llywodraeth y DU gau safleoedd Remploy yng Nghymru yn 2012
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gweithredu i helpu cyn weithwyr Remploy yn Wrecsam, sy'n colli eu swyddi am yr eildro wrth i ffatri oedd wedi symud i'r safle gau.
Cyhoeddwyd yr wythnos ddiwetha' y byddai ffatri Enterprising Employment yn cau bum mis ar ôl iddi agor.
Cafodd ei sefydlu er mwyn rhoi swyddi i 12 o gyn weithwyr wedi i safle Remploy gau yn Awst 2012, a 40 yn colli eu swyddi.
Dywedodd Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi Cymru, Jeff Cuthbert:
"Mae'n siom i unrhyw un gael eu diswyddo unwaith. Ond mae colli eich gwaith eto 18 mis yn ddiweddarach yn ergyd drom iawn yn wir.
"Roedd y newyddion am Enterprising Employment yn siomedig a dyna pam ein bod yn gweithredu i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai hynny sy'n diodde' i ddod o hyd i waith a chyfleoedd newydd.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Waith yn Wrecsam i edrych ar yr holl opsiynau yn yr ardal ac rydym wedi meddwl am sawl posibilrwydd.
"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi holl gyn weithwyr Remploy ac, er gwaetha'r newyddion diweddar, rydym yn parhau i geisio gwneud hynny. Hyd yma rydym wedi helpu 189 o gyn weithwyr Remploy i ddechrau swyddi newydd ac rwyf eisiau adeiladu ar y llwyddiant yna."
Mae Llywodraeth Cymru wedi atal unrhyw daliadau i Enterprising Employment am y tro tra eu bod yn ymchwilio'n fwy trwyadl i'r sefyllfa.
Yn ôl ffigyrau a ddaeth i law BBC Cymru fis Ebrill, doedd dwy ran o dair o gyn weithwyr Remploy ddim wedi dod o hyd i waith wedi i'r ffatrioedd gau.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai pob un o ffatrioedd Remploy yn cau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai grant gwerth £2.4m yn cael ei sefydlu i gefnogi cyflogwyr fyddai'n barod i gyflogi gweithwyr anabl Remploy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd6 Mai 2013

- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012