Cyngor Abertawe yn cymeradwyo cynlluniau i arbed £45m
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Abertawe angen arbed £45m dros y tair blynedd nesa'
Mae cynghorwyr yn Abertawe wedi cymeradwyo cynlluniau i geisio arbed £45m dros y tair blynedd nesa'.
Gallai hyd at 687 o swyddi ddiflannu yn sgil y toriadau, ac mae'r cyngor yn dweud na allan nhw ddiystyrru'r posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol.
Yn ogystal, gallai tri chartre' gofal gau, ynghyd ag un llyfrgell, gwasanaeth sy'n darparu prydau bwyd i'r gymuned, a gallai pris cinio ysgol godi.
Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor Christine Richards mai dyma'r sefyllfa "fwya' heriol i'r cyngor erioed orfod ei wynebu".
Ond mae'r cyngor yn mynnu mai'r flaenoriaeth yw gwarchod y gwasanaethau rheng flaen a'u bod yn ceisio dod o hyd i ffyrdd gwahanol i gynnig gwasanaethau.
Bydd yr awdurdod nawr yn ymgynghori ar y cynlluniau ac mae disgwyl penderfyniad terfynol ym mis Chwefror.
Roedd Cyngor Wrecsam hefyd yn trafod opsiynau posib ar gyfer arbed arian ddydd Mercher. Mae'r awdurdod wedi cael 368 o geisiadau ar gyfer ymddeoliadau cynnar ac ymddiswyddiadau gwirfoddol.
Mae 54 o geisiadau wedi eu derbyn, fyddai'n golygu arbedion o £1.8m i'r cyngor.
Mae'r awdurdod yn wynebu toriadau o 3.5% ar gyfer 2014/15.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2013
