Abertawe heb Vorm am o leia' pum wythnos
- Cyhoeddwyd

Mae'r anaf wedi bod yn peri pryder i Vorm ers tro
Bydd rhaid i Abertawe chwarae heb eu prif gôl-geidwad Michel Vorm am o leia' pum wythnos, wrth i'r gŵr o'r Iseldiroedd gael llawdriniaeth ar ei ben-glin.
Daeth yr anaf - sydd wedi peri problemau i Vorm yn y gorffennol - i'r amlwg eto yn ystod gêm gyfartal yr Elyrch yn erbyn Norwich ddydd Sul.
Fe ddatgelodd rheolwr Abertawe Michael Laudrup y byddai Vorm angen llawdriniaeth ar yr anaf yn gynharach y mis hwn.,
Mewn datganiad ar wefan Abertawe, dywedodd y clwb eu bod nhw "wedi gobeithio y byddai'r gôl-geidwad wedi gallu para' tan ddiwedd Ionawr, ond wedi iddo gael rhagor o drafferthion yn erbyn Norwich ddydd Sul, roedd yn amlwg y byddai'n rhaid ei drin yn gynt.
"Fe fydd meddygon yn gweithio i gael gwared ar unrhyw ddarnau bychan o esgyrn neu ewynnau sydd wedi dod yn rhydd, ac yna'n gallu dweud wrthon ni pryd fydd Vorm yn ei ôl, yn dibynnu ar natur y llawdriniaeth."
Newyddion da
Ond mae 'na ychydig o newyddion da i'r Elyrch cyn eu gem yn erbyn Everton ddydd Sul. Fe ddylai'r chwaraewr canol-cae, Leon Britton a'r amddiffynnwr, Chico Flores fod yn eu holau.
Yn ogystal, mae'r dirprwy reolwr, Morten Wieghorst wedi wfftio awgrymiadau y gallai Michael Laudrup fod ar ei ffordd i Tottenham wedi i Andreas Villas Boas gael y sac.
Dywedodd wrth y BBC: "Dydw i ddim yn credu y dylai'r clwb boeni.
"Yn ei amser yma, mae o wedi cael ei grybwyll mewn sgyrsiau am ambell i swydd wag ac wedi dweud 'Rydw i am aros'.
"Mae Michael wastad wedi denu diddordeb, gan ei fod yn gwneud gwaith gwych, mae'n rheolwr gwych ac wedi cyflawni cymaint ym myd pêl-droed."