Dal i ddisgwyl trydan wedi'r storm
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd siop Currys yn Llandudno ei difrodi'n arw gan y gwyntoedd ddydd Gwener
Mae tua 100 o gartrefi yn y gogledd yn dal heb drydan.
Ynys Môn a Gwynedd gafodd eu taro waethaf, ac mae peirianwyr yn dal i geisio ail-gysylltu'r cyflenwad i dai yno fore Sul.
Mae gweithwyr y cyngor wedi bod yn clirio coed oedd wedi disgyn ar y ffyrdd yn dilyn gwyntoedd o hyd at 109 m.y.a..
Yn y cyfamser mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ddydd Llun.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae llifogydd yn bosibl ger afonydd de sir Benfro
Dywedodd cwmni Trenau Arriva Cymru fod gwasanaeth bws yn gweithredu rhwng Harlech a Phwllheli oherwydd difrod i bont yn Llandecwyn.
Ond mae gwasanaethau arferol wedi cael eu hadfer rhwng Aberdâr ac Aberpennar yn dilyn problemau gyda'r signalau wedi llifogydd yn y fan honno.
Gohirio gwaith arall
Dywedodd cwmni Scottish Power eu bod yn gweithio i adfer cyflenwadau trydan, ac maen nhw wedi gohirio unrhyw waith sydd ddim yn hanfodol er mwyn canolbwyntio ar y gwaith yma.
Maen nhw hefyd wedi cyflogi contractwyr ychwanegol.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm a gwyntoedd eto ddydd Llun, gyda Chymru gyfan, de-orllewin Lloegr a'r Alban yn debyg o ddiodde' waethaf.
Mae disgwyl i'r glaw ymledu ar draws Cymru nos Sul a fore Llun, gyda gwyntoedd o hyd at 70 m.y.a. yng ngorllewin Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013
