£18m i ymchwil tanwydd
- Cyhoeddwyd

Mae cnydau fel india corn eisoes yn cael eu defnyddio ar gyfer tanwydd
Mae adran o fewn Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn £18 miliwn ar gyfer datblygu ffyrdd o greu deunyddiau diwydiannol allan o blanhigion.
Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (Ibers) sydd yn cyflogi 360 o bobl wedi derbyn yr arian.
Maen nhw'n gobeithio y gall y gwaith fydd e'n ei gyllido arwain at ddarganfod tanwydd cynaliadwy fyddai'n lleihau'r angen i losgi petrogemegau.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio'n benodol er mwyn gwella cyfathrebu rhwng ysgolheigion a diwydiant drwy gefnogi rhwydwaith o dros 50 o bobl o feysydd academaidd a diwydiannol.
Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at ddarganfod prosesau ar gyfer puro deunyddiau fel cnydau nad ellid eu defnyddio ar gyfer bwyd a gwastraff amaethyddol fel eu bod yn gallu cael eu defnyddio fel tanwydd.
Bydd cyfle i dimau o ymchwilwyr wneud cais i'r rhwydwaith am arian ar gyfer darganfod os yw eu syniadau ar gyfer gwneud hyn yn debygol o weithio.
Dywedodd Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth llywodraeth Prydain, David Willetts; "I lwyddo yn y ras fyd-eang mae angen i ni droi ein gwyddoniaeth ac ymchwil o safon byd yn gynnyrch a gwasanaethau o safon byd, yn unol â'n Strategaeth Ddiwydiannol.
"Bydd y rhwydweithiau hyn yn datgloi potensial aruthrol biotechnoleg a bio-ynni, megis dod o hyd i ffyrdd arloesol o ddefnyddio bwyd gwastraff, a chreu cemegau o gelloedd planhigion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2013
