Dathlu ail-agor ysgol Cwmcarn
- Cyhoeddwyd

Cafodd asbestos ei ddarganfod yn Ysgol Cwmcarn yn 2012
Bydd dathliadau mewn un ysgol yn ne Cymru ddydd Llun, sy'n ail agor 14 mis wedi i asbestos gael ei ddarganfod yno.
Bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn Ysgol Cwmcarn yn Sir Caerffili yn ddiweddarach, lle bydd disgyblion a staff yn dathlu agor yr ysgol unwaith eto.
Mae'r ysgol wedi bod yn gweithredu o safle hen Goleg Gwent 12 milltir i ffwrdd yng Nglyn Ebwy ers mis Tachwedd 2012.
Roedd disgwyl i''r disgyblion symud yn ôl i'r ysgol ym mis Medi 2013, ond roedd oediad wedi marwolaeth contractwr ar y safle.
Roedd athrawon wedi bod yn paratoi at symud cyn y Nadolig, cyn i'r brifathrawes, Jacqui Peplinski, dderbyn y goriadau ar Ragfyr 16.
Bydd aelodau o'r cyngor yn bresennol ar gyfer seremoni ail-agor swyddogol yn ddiweddarach.
'Anrheg wych'
Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Gary Thomas, sy'n dathlu ei ben blwydd ar yr un diwrnod, mai dyma'r anrheg perffaith.
"Mae'n anrheg wych i mi, mae'n fendigedig," meddai.
"Mae pawb yn barod i symud yn ôl adref, ac rydym ni i gyd yn falch iawn."
Cafodd yr ysgol ei chau ym mis Hydref 2012 oherwydd pryder am iechyd y 900 o ddisgyblion, wedi i asbestos gael ei ddarganfod ar y safle.
Roedd protestio gan rieni a disgyblion yn erbyn cau'r ysgol, a dadlau gyda'r cyngor sir am sut y byddai'r gwaith i ddiogelu'r safle yn cael ei ariannu.
Cafodd contractwyr eu cyflogi i dynnu'r asbestos ym mis Mehefin.
Ym mis Gorffennaf, bu farw James Paul, 26, o Abertyleri, Blaenau Gwent, tra'n gweithio ar y safle.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'w farwolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2013

- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
