Iechyd: System dagio i atal colledion
- Cyhoeddwyd

Mae gwerth £390,000 o ddillad yn mynd ar goll bob blwyddyn.
Mae un o fyrddau iechyd Cymru am fuddsoddi mewn system tagio er mwyn rhwystro dillad gwelyau rhag cael eu colli.
Dywed y Bwrdd eu bod yn prosesu 12 miliwn o eitemau dillad bob blwyddyn.
Yn ôl llefarydd mae gwerth £390,000 o lieiniau a dillad gwely yn mynd ar goll bob blwyddyn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £353,000 ar gyfer y system dagio newydd.
Mae gwasanaeth golchi dillad Aneurin Bevan, sydd wedi ei leoli yng Nghwmbrân, hefyd yn darparu gwasanaeth ar gyfer Ymddiriedolaeth Caerdydd a'r Fro, Powys a Felindre.
Mae ganddynt hefyd nifer o gytundebau llai, gyda'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ymhen tair blynedd eu bod yn gobeithio arbed rhwng £250,000-£300,00 bob blwyddyn.
Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru Jane Hutt fod y sustem yn arbed arian i'r trethdalwyr.
"Mae hwn yn wasanaeth cyhoeddus da, gan ddefnyddio technoleg i leihau colledion dillad.
"Mae defnyddio technoleg yn y modd hwn yn dangos sut mae gwasanaeth cyhoeddus yn gallu gwneud pethau yn wahanol ac yn well.
"Rwyf yn awyddus i weld y math hwn o gydweithredu a'r defnydd o ddulliau newydd yn cael eu defnyddio mwy mwy yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
