Dreigiau Gwent 13-30 Caerfaddon
- Cyhoeddwyd

Micky Young yn croesi ar gyfer un o geisiau Caerfaddon
Fe wnaeth Caerfaddon sicrhau eu lle yn rownd yr wyth ola gyda buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws yn erbyn Dreigiau Gwent yn Rodney Parade.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gyfforddus o 27-6 erbyn yr hanner amser yng ngrwp 2.
Gyda'r garfan wedi llwyddo i gael pedwar cais yn y deugain munud cyntaf roeddwn nhw eisoes wedi sicrhau'r pwynt bonws.
Y mewnwr Micky Young, yr asgellwr Tom Biggs, Mathew Gilbert a Leroy Houston lwyddodd i groesi gyda Nic Cudd yn cael cais gysur i'r Dreigiau yn yr ail hanner.
Cafodd y maswr Tom Heathcote 10 pwynt wrth drosi i'r ymwelwyr tra bod Steffan Jones wedi cael llwyddo gyda dwy gic gosb yn yr hanner cyntaf.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol