Trafod dyfodol pwll nofio
Mae rhai sy'n gyfrifol am gynnal pwll nofio Harlech, yng Ngwynedd, yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn mynd i gyfarfod cyhoeddus yn Theatr Harlech nos Fawrth i drafod dyfodol y safle.
Mae Cwmni Hamdden Harlech ac Ardudwy, sef y cwmni cymunedol sy'n gyfrifol am y pwll, angen mwy o gyfarwyddwyr ar frys.
Pe na bai pobl yn gwirfoddoli i fod yn aelodau fe allai'r pwll gau.
Llyr Edwards fu yn Harlech i holi pa mor bwysig ydi'r pwll i'r ardal.