Wylfa Newydd: Hysbysebu swyddi
- Cyhoeddwyd

Ar gyfer y swyddi ar Ynys Môn, roedd y cwmni'n dweud y byddai'r "gallu i siarad Cymraeg" yn fantais.
Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am brosiect Wylfa Newydd wedi hysbysebu nifer o swyddi ar Ynys Môn.
Dywedodd Horizon eu bod nhw'n chwilio am beirianwyr a datblygwyr gyda phrofiad o reoli prosiectau mawr.
Ar gyfer y swyddi ar Ynys Môn, roedd y cwmni'n dweud y byddai'r "gallu i siarad Cymraeg, neu'r brwdfrydedd i ddysgu" yn fantais.
Meddai llefarydd ar ran y cwmni mai bychan yw'r nifer o swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd, ond bydd y nifer yn cynyddu yn ystod y misoedd i ddod.
Ddechrau'r mis, daeth cadarnhad y byddai rheoleiddwyr yn dechrau ar yr ail gam o asesu adweithydd atomfa niwclear Wylfa Newydd.
Y cam nesa' fydd asesu'r dyluniad o ran arbenigedd dechnegol ond gallai'r rhan hon o'r broses gymryd hyd at bedair blynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd21 Hydref 2013
