Seiclo: Thomas yn chweched
- Cyhoeddwyd

Roedd Geraint Thomas yn 11eg wedi'r cymal cyntaf
Mae Geraint Thomas wedi codi i'r chweched safle yn dilyn trydydd cymal ras feicio'r Tour Down Under yn Awstralia.
Cadel Evans o Awstralia gafodd y diwrnod orau ar y cymal o Norwood i Campbelltown. Fe groesodd y llinell derfyn ar ei ben ei hun gan ei roi ar frig y tabl yn y ras gyfan hefyd.
Nathan Haas a Diego Ulissi oedd yn arwain y grŵp nesaf i orffen 15 eiliad y tu ôl i Evans, ac roedd Thomas yn y grŵp yna.
Mae Simon Gerrans - fu ar y blaen am ddau ddiwrnod cyntaf y ras - bellach yn ail gydag Ulissi yn drydydd a Haas yn bedwerydd.
Mae Thomas wedi codi pedwar safle i chweched - 29 eiliad y tu ôl i Evans gyda thri chymal o'r ras yn weddill.
Bydd y pedwerydd cymal ddydd Gwener yn teithio'r 148.5km o Unley i Victor Harbor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2014
