Cwpan FA: Yr enwau o'r het
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Abertawe a Chaerdydd wybod pwy fyddan nhw'n wynebu ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr wedi i'r ddau ennill ddydd Sadwrn.
Fe fydd Caerdydd yn croesawu deiliaid y cwpan, Wigan Athletic, i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Gyda Wigan bellach i lawr yn y bencampwriaeth fe fydd rhai yn ystyried hon yn gêm haws, ond gyda Chaerdydd ar waelod yr Uwchgynghrair does fawr ddim rhwng y ddau dîm erbyn hyn.
Mae gan Abertawe dasg dipyn anoddach. Yr Elyrch oedd yr enw diwethaf o'r het, ac fe fydd rhaid i dîm Michael Laudrup deithio i Barc Goodison i wynebu Everton a'u cyn rheolwr Roberto Martinez.
Dwy gêm arall sy'n tynnu dŵr o'r dannedd yw'r un rhwng Manchester City a Chelsea, ac Arsenal yn erbyn Lerpwl.
Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar benwythnos Chwefror 14, 15 a 16.
Cwpan FA Lloegr - y bumed rownd :-
Man City v. Chelsea
Sheff.Utd/Fulham v. Nottm Forest/Preston
Arsenal v. Lerpwl
Brighton v. Hull
Caerdydd v. Wigan
Sheff.Wed v. Charlton Athletic
Sunderland v. Southampton
Everton v. Abertawe
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2014
