Rhanbarthau yn disgwyl taliadau Cwpan Heineken
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhanbarthau yn dweud nad ydynyt wedi derbyn tua £800,000 am chwarae yn y Cwpan Heineken
Nid yw rhanbarthau rygbi Cymru wedi derbyn eu taliad diweddaraf am chwarae yn y Cwpan Heineken.
Roedd y Gweilch, y Scarlets, y Gleision a'r Dreigiau wedi disgwyl derbyn taliad o £800,000 ddydd Mercher gan European Rugby Cup (ERC), y cwmni sy'n rheoli'r gystadleuaeth.
Ond nid yw'r arian yma wedi cyrraedd ac mae'r rhanbarthau wedi gorfod gwneud trefniadau eraill i dalu cyflogau.
Mae ERC yn honni nad oedd yr arian i fod i gael ei dalu tan ar ôl cyfarfod y bwrdd ar Chwefror 5.
Mae ERC yn dweud bod y penderfyniad wedi ei wneud mewn cyfarfod y bwrdd ym mis Medi, pan oedd y rhanbarthau wedi eu cynrychioli gan Brif Weithredwr Regional Rugby Wales, Stuart Gallacher.
Dywedodd ERC: "Ar ddechrau'r tymor (Medi 2013) penderfynodd bwrdd ERC y dylai pob taliad gan ERC gael ei gymeradwyo gan y bwrdd cyn iddyn nhw gael eu rhoi i'r cyfranddalwyr."
Dywedodd ERC bod y taliad cyntaf wedi ei roi ym mis Hydref, ac y byddai'r nesaf yn cael ei ystyried yn y cyfarfod ar Chwefror 5.
Mae Gallacher, oedd yn y cyfarfod ym mis Medi, eisoes wedi ymddiswyddo o'i swydd.
Mae arian am gystadlaethau Ewropeaidd yn cael ei dalu i Undeb Rygbi Cymru, ac yna yn cael ei ddosbarthu i'r rhanbarthau.
Mae'r undeb yn cefnogi safbwynt ERC.
Mae'r undeb yng nghanol dadl gyda'r rhanbarthau am y ffordd mae rygbi yng Nghymru yn cael ei ariannu, cystadlaethau a'r nifer o chwaraewyr sy'n gadael y wlad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2014
