Ysgol i Grangetown: Gwrthod cynnig
- Cyhoeddwyd

Roedd Ymgyrch TAG yn awyddus i weld cynghorwyr yn pleidleisio o blaid y cynnig
Mae Cyngor Caerdydd wedi gwrthod cynnig cynghorwyr Plaid Cymru i adeiladu ysgol gyfrwng Gymraeg yn Grangetown neu Drebiwt.
Mewn cyfarfod nos Iau, cafodd cynnig cynghorydd Plaid Cymru, Neil McEvoy i adeiladu ysgol newydd ei wrthod.
Fe gynigwyd gwelliant i'r cynnig gan y Blaid Lafur, a chafodd y cynnig hwnnw ei gymeradwyo.
Roedd y gwelliant yn "nodi'r cynnydd mewn galw am addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.
"Rydym yn gofyn i'r cyngor nodi fod y cabinet wedi ymrwymo i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg ac yn bwriadu ystyried cynigion ar gyfer cyrraedd y galw yn Nhrebiwt, Treganna, Grangetown a Glan-yr-afon mewn cyfarfod ym mis Mawrth 2014."
Protestiadau
Yn ystod haf y flwyddyn ddiwethaf bu nifer o brotestiadau gan rieni a chymuned Gymraeg Caerdydd, oherwydd eu bod yn teimlo bod y ddarpariaeth addysg Gymraeg mewn rhai ardaloedd ddim ddigon da.
Roedden nhw'n dweud fod y cyngor wedi addo adeiladu ysgol newydd yn ardal Grangetown ond eu bod nhw wedyn wedi mynd yn ôl ar eu gair.
Mewn ymateb i'r pryderon, fe gyhoeddodd y cyngor y byddan nhw'n ymgynghori'n bellach ar y mater.
Roedd y grŵp gafodd ei sefydlu er mwyn ymgyrchu dros ysgol newydd - Ymgyrch Ysgol Gymraeg i Trebiwt a Grangetown (TAG) - yn galw ar gynghorwyr i bleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru yr wythnos hon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd22 Medi 2013

- Cyhoeddwyd3 Medi 2013
