Eli Walker yn arwyddo cytundeb newydd gyda'r Gweilch
- Cyhoeddwyd

Mae asgellwr y Gweilch Eli Walker wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r rhanbarth.
Mae Walker, sydd wedi bod yn rhan o garfan Cymru yn ddiweddar, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd o hyd bydd yn ei gadw gyda'r Gweilch tan 2016.
Dywedodd: "Doeddwn i ddim am fynd i unman arall felly mae'n wych bod yr hyfforddwyr am fy nghadw i yma."
Mae wedi chwarae37 o weithiau dros y Gweilch hyd yn hyn, gan sgorio 10 cais, ond mae anafiadau wedi bod yn broblem iddo'n ddiweddar.
"Y nod am y blynyddoedd nesaf yw aros yn holliach," meddai, gafodd ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd.
"Dwi wedi cael ychydig o lwc drwg y tymor yma a heb chwarae gymaint a fuaswn i wedi gobeithio, ond gall brofiadau fel hyn fy ngwneud i'n gryfach.
"Dwi am barhau i chwarae i'r Gweilch a sicrhau perfformiadau cyson."
Daw cytundeb Walker wedi i ganolwr Cymru, Ashley Beck a chlo Cymru, Alun Wyn Jones ymestyn eu cytundebau gyda'r Gweilch hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd22 Hydref 2013
