Chwe Gwlad: George North yn y canol?
- Cyhoeddwyd

Gallai George North symud i'r canol a Liam Williams chwarae ar yr asgell
Mae cyn fewnwr Cymru a'r Llewod Robert Jones yn credu y gallai Warren Gatland ddewis George North yn y canol i Gymru yn erbyn Ffrainc gan na fydd Jonathan Davies yn holliach.
Nid yw Davies wedi chwarae ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eto eleni, ac mae Scott Williams allan o'r bencampwriaeth ar ôl anafu ei ysgwydd yn erbyn Iwerddon.
Symudodd North i'r canol pan adawodd Williams y maes yn Nulyn, ac yn ôl Jones fe allai aros yno.
"Rwy'n credu y bydd e (Gatland) yn dewis George North."
Yn ôl rhai adroddiadau mae amheuaeth a fydd canolwr grymus y Ffrancwyr, Mathieu Bastareaud, ar gael ar ôl anafu ei ysgwydd wrth chwarae i Toulon yn erbyn Castres dros y penwythnos.
Fe fydd hynny'n sicr yn lleihau grym y Ffrancwyr yn y canol tra bod Cymru'n debyg o gryfhau os fydd Davies neu North yn bartner i Jamie Roberts.
"Dydw i ddim yn credu y bydd Bastareaud ar gael oherwydd anaf," meddai Jones.
"Bydd Ffrainc ychydig yn fwy bregus a ddim mor rymus yng nghanol cae, ac rwy'n credu bydd Gatland yn glynu at ei gynllun drwy ddefnyddio pwer i lawr y canol a dod â Liam Williams i mewn ar yr asgell."
Chwaraeodd Jonathan Davies, a gafodd anaf wrth chwarae yn erbyn De Affrica ym mis Tachwedd y llynedd, am y tro cyntaf ers hynny dros y Scarlets yn erbyn London Irish ar Chwefror 1.
Daeth yn syth yn ôl i mewn i garfan Cymru, ac nid oedd ymysg y chwaraewyr a gafodd eu rhyddhau i chwarae i'w rhanbarthau y penwythnos diwethaf a daeth cadarnhad ddydd Llun na fydd wedi gwella mewn pryd i wynebu Ffrainc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2014
