Athrawes o Gasnewydd wedi ei chyhuddo o droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae athrawes wedi ei chyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn bachgen rhwng 13 ag 17 oed.
Mae Kelly Ann-Marie Burgess, 26, o Gasnewydd, yn wynebu pedwar cyhuddiad o oedolyn yn 'camdrin safle o ymddiriedaeth - gweithredoedd rhyw gyda phlentyn'.
Yn ôl Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Ionawr 1 ag Awst 28, 2013.
Bydd Ms Burgess yn ymddangos yn Llys Ynadon Gogledd Gwlad yr Haf yn Worle ar Fawrth 17.