Rhyddhau dyn o reiliau yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân yn Wrecsam dorri dyn yn rhydd wedi iddo fynd yn gaeth mewn rheiliau dros y penwythnos.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i orsaf drenau Gwersyllt am 4:54yb ddydd Sadwrn.
Fe ddefnyddion nhw offer torri arbenigol i ryddhau'r dyn, sydd yn ei 40au hwyr yn ôl adroddiadau.
Cafodd ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor, Wrecsam, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Prifysgol Gogledd Sir Stafford.
Roedd y gwasanaeth tân wedi gadael y safle erbyn ychydig cyn 6:00yb.
Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain, roedd y dyn wedi cael anafiadau i'w ben, ond does dim manylion pellach am ei gyflwr ar hyn o bryd.
Dyw'r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol