Gohirio pleidlais cyllideb Powys
- Cyhoeddwyd

Gallai pobl Powys weld 3.95% o gynnydd mewn treth cyngor
Mae'r bleidlais i benderfynu cyllideb Cyngor Powys wedi ei gohirio tan ddydd Mercher, Mawrth 5.
Mae angen i'r awdurdod arbed bron i £20 miliwn ac maen nhw'n ystyried cynyddu treth cyngor o 3.95%.
Roedd tua 100 o brotestwyr tu allan i Neuadd y Sir yn Llandrindod cyn i'r cyfarfod ddechrau fore dydd Mawrth.
Yna fe aeth grŵp bychan ohonyn nhw i mewn i'r siambr cyn i un ohonyn nhw ddefnyddio larwm trais.
Bu'n rhaid i'r heddlu eu symud o'r safle a chafodd y cyfarfod ei ohirio am tua 10 munud.
Roedd nifer o'r ymgyrchwyr yn bryderus am ddyfodol darpariaeth addysg arbennig yn y sir.
Wedyn cafodd cynnig i newid y ddarpariaeth addysg arbennig ei dynnu o'r cynllun fel rhan o bleidlais ar welliannau.
Yn ogystal cafwyd gwared ar y mesur i gynyddu ffïoedd i'r henoed am ddefnyddio canolfannau dydd.
Haneru grant
Wythnos yn ôl, penderfynodd cabinet y cyngor gefnogi cynllun i haneru grant Cyngor ar Bopeth y sir yn y flwyddyn ariannol nesa', cyn dod â nawdd i ben yn gyfan gwbl wedi hynny.
Dywedodd cadeirydd CAB Powys, Chris Mann, y byddai'r toriadau yn dod â'r gwasanaeth i ben, ac yn effeithio ar y "bobl fwya' bregus yn ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru".
Cafodd deiseb ag arni 5,000 o enwau, yn gwrthwynebu'r toriadau posib i wasanaethau CAB, ei chyflwyno i'r cyngor cyn y cyfarfod ddydd Mawrth.
Mae'r cynigion eraill sydd parhau i fod o dan ystyriaeth yn cynnwys:
Cau canolfannau'r henoed er mwyn arbed £250,000
Dod â'r gwasanaeth 'pryd-ar-glud' i ben i arbed £80,250
Lleihau cost gwasanaethau drwy weithio'n fwy effeithiol ac ail-strwythuro staff er mwyn arbed £6.48m
Trosglwyddo cyfrifoldeb yswiriant, cyflog athrawon llanw ac ati i'r ysgolion, gan arbed £1.11m
Cyflwyno cost am drafnidiaeth addysg ôl-16 (£350,000)
Codi cost meysydd parcio'r cyngor (£178,000)
Adolygu gwasanaeth cinio ysgol er mwyn lleihau costau (£292,000)
Dywedodd arweinydd Cyngor Powys, Barry Thomas: "Mae'n rhaid i ni bwyso a mesur angen i ddarparu gwasanaethau statudol fel addysg a gofal cymdeithasol, ynghŷd â gwasanaethau fyddai'n ddelfrydol i'r gymdeithas - a gallu'r cyngor i dalu amdanyn nhw.
"Eleni rydym ni'n argymell cynnydd o 3.95% i dreth cyngor, fydd yn ychwanegu £38 y flwyddyn i eiddo Band D."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013
