Cameron i gwrdd y Ceidwadwyr Cymreig
- Cyhoeddwyd

Mae'n debyg bod dryswch yn Stryd Downing am benderfyniad Andrew RT Davies i ddiswyddo pedwar o'i fainc flaen.
Mi fydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn cwrdd â Cheidwadwyr Cymreig y Cynulliad a'r Senedd yn hwyrach yn yr wythnos wrth i'r ffraeo barhau dros rwyg y blaid ar ddatganoli treth incwm.
Fe fydd aelodau'r Cynulliad yn teithio i San Stefffan ddydd Iau ar gyfer eu cyfarfod blynyddol gydag aelodau Seneddol.
Mae disgwyl i David Cameron fod yn bresennol er bod Canghellor yr Almaen, Angeka Merkel, yn ymweld â'r Senedd yr un diwrnod.
Mae'r cyfarfod yn dilyn penderfyniad Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, i roi'r sac i bedwar aelod o'i fainc flaen.
Mae tensiynnau hefyd rhyngddo fo ag Ysgrifennydd Cymru, David Jones.
Roedd pennaeth staff Mr Davies, Antony Pickles, wedi cael ei alw i gyfarfod nos Fawrth yn rhif 10, Stryd Downing, er mwyn ceisio datrys yr anghydfod.
Mae'n debyg bod dryswch yn Stryd Downing am y diswyddiadau ac awydd i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd a pham.
Roedd cyfarfod nos Fawrth yn ymgais i geisio dod o hyd i ffordd drwy'r tensiynnau ac i baratoi at gyfarfod ddydd Iau.
Mae Stephen Crabb, AS Preseli Penfro, wedi canslo ymweliad swyddogol i hyrwyddo twristiaeth er mwyn gallu mynychu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2014
