Rhondda Cynon Taf: treth yn codi 4.5%
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn codi treth cyngor 4.5% wrth iddynt geisio arbed £20m
Mae Cyngor Rhondda Cyngor Taf wedi cefnogi strategaeth gyllid eu cabinet fydd yn gweld treth cyngor yn y sir yn codi 4.5% ar gyfer 2014/15.
Mae hyn yn golygu bydd perchnogion eiddo band D yn wynebu talu £1,438.34 y flwyddyn ar gyfartaledd o fis Ebrill ymlaen.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi gallu pontio'r diffyg o £20m roedden nhw'n wynebu dros y flwyddyn nesaf.
Meddai'r Cynghorydd Anthony Christopher, Arweinydd y Cyngor: "Er y pwysau sydd wedi cael ei roi ar yr awdurdod mae pasio'r gyllideb yn dangos ein bod â rheolaeth gref o'r sefyllfa ariannol.
"Yn yr hinsawdd economaidd anodd yma nid oes gan gynghorwyr obaith o ennill cystadleuaeth poblogrwydd oherwydd mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau caled.
"Dros y 18 mis diwethaf, mae'r broses o gytuno ar y gyllideb yma wedi bod yr yn anoddaf erioed i ni ei phrofi."
Un o'r toriadau a gynigwyd oedd rhoi'r gorau i ariannu canolfan gelfyddydau'r Miwni ym Mhontypridd.
Fe gafodd deiseb gyda 4,000 o enwau ei chyflwyno i Gyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Llun yn gwrthwynebu'r bwriad.
Dywedodd llefarydd i'r cyngor y bydd y Miwni yn cael ei drafod gan y cabinet yn hwyrach, ar ôl iddyn nhw gael y cyfle i fynd trwy'r ymatebion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd30 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2014
