Cŵn wedi eu difa wedi marwolaeth babi ym Mhontyberem
- Cyhoeddwyd

Nid oedd timau meddygol yn gallu achub Eliza-Mae Mullane
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cadarnhau bod dau gi wedi eu difa wedi marwolaeth Eliza-Mae Mullane a oedd yn chwe diwrnod oed.
Dywedodd yr heddlu fod achos marwolaeth Eliza-Mae Mullane bellach wedi ei basio i grwner Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn New Road, Pontyberem ar Chwefror 18.
Cafodd y ferch chwe diwrnod oed ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ond nid oedd timau meddygol yn gallu ei hachub.
Wedi'r digwyddiad, dywedodd yr heddlu fod ci'r teulu, math Alaskan Malmute, wedi ei gymryd o'r tŷ.
Ddydd Mawrth dywedodd yr heddlu fod dau gi wedi eu difa.
Wrth roi teyrnged, dywedodd rhieni Eliza-Mae, Sharon John a Patrick Mullane y byddan nhw'n "cofio'n annwyl" yr amser byr y cawson nhw gyda'i merch.
"Daeth â llawenydd i'n teulu ac mae ei cholli hi fel hyn yn gysgod ofnadwy drosom ni.
"Nid oes geiriau i ddisgrifio ein teimladau ni ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn meddwl y bydd byth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014
