Llys: 'AS yn rhoi ei law lawr fy nhrowsus'
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Mr Evans ymddiswyddo fel dirprwy lefarydd ym mis Medi
Mae dyn sy'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol gan gyn ddirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin wedi dweud bod Nigel Evans wedi rhoi ei law i lawr ei drowsus ddwywaith ar noson allan yn Llundain.
Dywedodd iddo wfftio'r digwyddiad, gan feddwl: "Dyma Nigel pan ma' Nigel wedi meddwi," meddai yn Llys y Goron Preston.
Mae Mr Evans, 56 oed, wedi gwadu un cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus a chwech o ymosod yn rhywiol yn dyddio'n ôl i'r cyfnod rhwng 2002 a 2013.
Dywedodd y tyst fod "cyfrinach agored" yn San Steffan fod yr AS yn hoyw a bod yr ymosodiad honedig yn 2002 tra ei fod e a'i gyfeillion yn nhafarn y Sanctuary yn Soho.
"Roedd hi'n noson arferol o fynd allan a chael hwyl ac yna meddwl: "O Dduw, mae'n gwneud hwn i fi nawr.
"Fe gerddais i ffwrdd. Doeddwn i ddim eisiau iddo fe gredu fod gen i ddiddordeb.
"Wnes i wylltio. Fe fyddwn i wedi ei fwrw oni bai 'mod i wedi cerdded i ffwrdd."
Er iddo ymddiswyddo fel dirprwy lefarydd pan gafodd ei gyhuddo ym Mis Medi, mae Mr Evans yn parhau i gynrychioli ei etholaeth fel aelod annibynnol.
Mae wedi cynrychioli Ribble Valley ers 1992.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014
