Pryder am £53,000 i gyn Ddirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn
- Cyhoeddwyd

Fe dderbyniodd Sarah Stone iawndal o £27,000 yn ogystal â £26,000 ychwanegol fel taliad diswyddo
Mae pryderon wedi codi ar ôl i gyn Ddirprwy-gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru dderbyn taliad o £53,000 wrth adael ei swydd.
Fe dderbyniodd Sarah Stone iawndal o £27,000 yn ogystal â £26,000 ychwanegol fel taliad diswyddo y llynedd.
Dywedodd y Ceidwadwyr y byddai'r arian ''wedi cael ei wario'n well ar wasanaethau sylfaenol'' tra dyweddodd y Democratiaid Rhyddfrydol y dylai gweinidogion egluro ai nhw ganiataodd y penderfyniad.
Yn ôl swyddfa'r comisiynydd, cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn derbyn cyngor annibynnol.
'Priodol'
Dywedodd llefarydd fod arbenigwyr cyfreithiol ac adnoddau dynol wedi cynghori mai ''dyma oedd y cam mwyaf priodol i reoli unrhyw risg bosibl'' yn y broses ail-strwythuro.
Roedd y newidiadau wedi i Sarah Rochira gael ei phenodi'n gomisiynydd ar ôl Ruth Marks yn 2012.
Daeth manylion y taliadau i'r golwg yng nghyfrifon blynyddol 2012-13 y comisiynydd, oedd yn nodi bod ''Sarah Stone wedi gadael o dan delerau diswyddo gwirfoddol ar Fawrth 31 2013.''
Mae swydd Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn Cymru wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac fe dderbyniodd y swyddfa £1.7m y llynedd.
Dywedodd Darren Millar, llefarydd yr wrthblaid ar faterion pobl hŷn: ''Byddai taliad sylweddol fel hwn wedi cael ei wario'n well ar wasanaethau craidd ac er mwyn gwella safonau gofal.
'Cwestiynau'
''Bydd trethdalwyr yn siwr o godi cwestiynau am y taliad yma a dydw i heb fy narbwyllo ei fod yn werth am arian i'r cyhoedd.''
Dywedodd Aled Roberts, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol fod ''pryder gwirioneddol ar hyn o bryd am daliadau i weithwyr oedd yn gadael eu gwaith yn y sector cyhoeddus.''
''Fe ddylai Llywodraeth Lafur Cymru esbonio'n glir ac ar fyrder os yr oedd wedi caniatáu i'r taliad hwn fynd yn ei flaen.''
Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa'r comisiynydd: ''Roedd y broses yn un agored a thryloyw ac fe gafodd y taliad ei gofnodi yng nghyfrifon blynyddol y comisiynydd, sydd ar gael i'r cyhoedd eu gweld.''