Tribiwnlys dyn wnaeth reslo siarc
- Cyhoeddwyd

Paul Marshallsea yn y môr yn reslo'r siarc
Fydd tribiwnlys dyn, gafodd y sac wedi i'w fos weld fideo ohono'n reslo siarc ar lan y môr pan oedd ar gyfnod absenoldeb o'r gwaith oherwydd salwch, ddim yn parhau yn dilyn setliad.
Fe gydiodd Paul Marshallsea, 62, o Ferthyr Tudful, yn y siarc gerfydd ei gynffon i'w rwystro rhag nofio tuag at blant ar draeth Bulcock yn Awstralia y llynedd.
Wedi i fideo ohono ymddangos ledled y byd fe gafodd o'r sac gan Glwb Bechgyn a Merched Dowlais.
Mae'r ddwy ochr wedi cytuno ar setliad ond chafodd y manylion ddim eu rhyddhau.
Roedd Mr Marshallsea a'r wraig Wendy, 56, ar gyfnod estynedig o absenoldeb salwch o'r gwaith oherwydd straen pan reslodd y siarc fis Ionawr 2013. Roedd y ddau wedi bod yn gweithio yn y clwb ers 10 mlynedd.

Mr Marshallsea gyda'i wraig Wendy a'i ferch Rachel ar eu gwyliau'n Awstralia
Fe aeth y cwpwl ar drip i Awstralia am ddeufis i ymweld â ffrindiau, ac roedden nhw'n cael barbeciw ar y traeth pan welon nhw'r siarc ger y lan.
Fe redodd Mr Marshallsea i'r môr lle cafodd ei ffilmio'n llusgo'r siarc 'dusky whaler' chwe throefedd o hyd tuag at ddŵr dyfnach.
Yn ôl arbenigwyr, gall y 'dusky whaler' fod yn beryglus.
Ar y pryd, fe ddisgrifiodd Mr Marshallsea beth ddigwyddodd.
"Pan oeddwn i hyd at fy mhengliniau yn y dŵr fe drodd y siarc arna'i a bron iddo fe 'mrathu i," meddai.
"Bron i'r siarc fynd â 'nghoes i mewn eiliad - roedd e mor gyflym â hynny."
Fe gafodd y digwyddiad ei ffilmio gan griw newyddion teledu oedd yn gweithio gerllaw.
Ychwanegodd Mr Marshallsea: "Mae'r dŵr yn fâs am bum, chwe llath lle ddaeth y siarc i'r lan, ac mae 'na lot o fabis a phlant bach yn chwarae yno - fe fyddai wedi gallu bod yn wael iawn.
"Roedd yn hollol reddfol, 'nes i jysd cydio yng nghynffon y siarc.
"Dw i'n gwybod ei fod e'n beryglus ond roedd e'n hardd iawn - rhaid i chi barchu anifail hardd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013