Streic athrawon: UCAC yn tynnu nôl
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd streic gynta'r athrawon yn yr anghydfod yn 2011
Mae undeb athrawon UCAC wedi penderfynu peidio galw ei aelodau i streicio ar Fawrth 26.
Roedd tri undeb - UCAC, NUT a NASUWT - wedi cyhoeddi y byddai athrawon yng Nghymru a Lloegr yn streicio ar y diwrnod hwnnw oherwydd ffrae am eu cyflogau, pensiynau ac amodau gwaith.
Cynhaliodd UCAC gyfarfod brys o'u cyngor cenedlaethol yn Aberystwyth ddydd Mercher cyn dod i'r penderfyniad i ymatal rhag streicio.
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Ers inni gyhoeddi'r bwriad i streicio, mae Llywodraeth San Steffan wedi cymryd nifer o gamau cadarnhaol.
"Yn sgil y datblygiadau positif hyn, mae UCAC wedi penderfynu parhau i bwyso am welliannau, a cheisio datrys yr anghydfod trwy drafodaethau ac ymgyrchu.
"Nid yw'r ymgyrch drosodd, o bell ffordd, ond mae'r undeb wedi penderfynu mai trwy drafodaethau, yn hytrach na thrwy weithredu diwydiannol, y mae'r gobaith orau o lwyddo ar hyn o bryd."
Nid yw'r ddau undeb arall eto wedi ymateb i gyhoeddiad UCAC, ond fe fydd Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda'r holl undebau i drafod cyfres o bryderon.
Fe fydd hefyd drafodaethau penodol gydag UCAC, yr NUT a'r NASUWT am yr anghydfod penodol, ac fe fydd y cyfarfodydd wythnosol yn parhau tan y Pasg a thu hwnt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
