S4C i lansio sianel manylder uwch eto?
- Cyhoeddwyd

Cafodd gwasanaeth Clirlun S4C ei ddirwyn i ben yn 2012 er mwyn arbed arian
Mae Prif Weithredwr S4C wedi dweud bod y sianel yn gobeithio lansio gwasanaeth manylder uwch (HD) erbyn 2016.
Wrth roi tystiolaeth i aelodau Cynulliad fore Iau, dywedodd Ian Jones eu bod am lansio'r sianel ar deledu lloeren.
Roedd gan S4C sianel manylder uwch - S4C Clirlun, oedd yn cael ei ddarlledu ar Freesat - ond cafodd ei dynnu oddi ar yr awyr yn 2012 er mwyn arbed arian.
Yn ogystal â sianel newydd, dywedodd Mr Jones a'r Cadeirydd Huw Jones, bod angen mwy o ddiogelwch ariannol ac annibyniaeth golygyddol.
'Sicrhau cyllid digonol'
Cafodd Clirlun ei lansio gan S4C yn 2010, ond daeth i ben yn 2012 fel rhan ymgais gan y sianel i arbed arian.
Ar y pryd, dywedodd Huw Jones y byddai'n arbed £1.5m y flwyddyn i S4C.
Ddydd Iau, dywedodd Ian Jones wrth ACau bod y sianel yn bwriadu lansio gwasanaeth manylder uwch newydd ar deledu lloeren erbyn 2016.
Roedd Mr Jones a Huw Jones yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Pan ofynnwyd am ddyfodol S4C a'r berthynas gyda'r BBC, dywedodd Huw Jones mai mater i wleidyddion oedd penderfynu ar lle mae'r atebolrwydd.
Ond ychwanegodd mai'r cwestiwn allweddol oedd "sut mae sicrhau cyllid digonol i alluogi i S4C ddarparu gwasanaeth o safon uchel y mae siaradwyr Cymraeg a phobl Cymru yn ei haeddu?"
O ran y cytundeb gyda'r BBC, dywedodd: "Y prif bryder yw bod y cytundeb gyda'r BBC yn dod i ben yn 2017, felly mae'n hollbwysig bod dealltwriaeth glir ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar ôl 2017."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
