Llythyr Ann Clwyd yn cael ei ryddhau
- Cyhoeddwyd

Mae'r llythyr yn cynnwys manylion cwynion gafodd eu rhoi i Ms Clwyd
Mae llythyr anfonodd yr AS Ann Clwyd at Lywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi, sy'n cynnwys manylion am gwynion gan bobl ynglŷn â gofal o fewn GIG Cymru.
Mae'r llythyr yn cynnwys sylwadau gan gleifion sy'n cwyno eu bod wedi cael eu hanwybyddu, am ofal meddygol a nyrsio gwael, am ddiffyg glendid ac amseroedd aros hir.
Ond mae nifer o sylwadau positif hefyd ymysg y rhai oedd yn y llythyr gafodd ei yrru gan Ms Clwyd.
Fe wnaeth y llythyr arwain ar ffrae rhwng AS Cwm Cynon a'r Prif Weinidog Carwyn Jones.
Roedd Ms Clwyd yn dweud bod "cannoedd" o bobl wedi ysgrifennu ati gyda chwynion am brofiadau roedden nhw a'u teuluoedd wedi derbyn o fewn ysbytai ng Nghymru.
Ond roedd Mr Jones yn dadlau nad oedd modd ymchwilio gan nad oedd manylion y rhai oedd yn cwyno wedi cael eu rhannu gyda'i lywodraeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
