Ymgynghori ar ddyfodol Llysoedd Ynadon Caerffili a'r Fenni
- Cyhoeddwyd

Llys Ynadon Caerffili, un o'r llysoedd lle mae ymgynghoriad wedi dechrau
Mae ymgynghoriad wedi dechrau am ddyfodol dau lys ynadon yn y de-ddwyrain.
Yn ôl Gwasanaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd, buasai cau Llysoedd Ynadon Caerffili a'r Fenni yn arbed £80,000 yn flynyddol.
Dywedodd y gwasanaeth fod y llysoedd mewn cyflwr gwael a bod angen gwario tua £1.4miliwn ar eu hailwampio.
Does dim staff yn gweithio yno'n barhaol.
'Swm sylweddol'
Roedd Llys Ynadon Y Fenni yn un o'r llysoedd gafodd ei arbed rhag cau er gwaetha'r rownd ddiwethaf o doriadau yn 2010.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth: "Dyw'r ddau lys ddim yn cael eu defnyddio ddigon ac mae angen gwario swm sylweddol i ailwampio'r ddau adeilad.
"Mae llai o waith troseddol a dyw llys ynadon mewn pedwar lleoliad gwahanol ddim yn golygu'r defnydd gorau o'r ystâd nac arian y trethdalwr.
"Mae llwyth gwaith o'r llysoedd wedi'i drosglwyddo'n llwyddiannus i Lysoedd Ynadon Cwmbrân a Chasnewydd ers agor yr adeilad newydd yng Nghasnewydd ym mis Medi 2013.
"Mae cyfleusterau gwell yn Llys Ynadon Cwmbrân a Chasnewydd ..."
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 21 Gorffennaf.