Parlwr godro: Gwrthod her gyfreithiol
- Cyhoeddwyd

Roedd gwrthwynebiad yn lleol i'r cynlluniau i adeiladu llaethdy enfawr
Mae apêl yn erbyn penderfyniad i adeiladu fferm parlwr godro ym Mhowys wedi cael ei wrthod gan lys yn y Trallwng.
Roedd elusen lles anifeiliaid WSPA yn herio'r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i'r datblygiad ger y Trallwng.
Mae'r penderfyniad yn golygu y gall y ffermwr Fraser Jones barhau a'i gynlluniau i odro dros 1,000 o wartheg ar ei fferm yn Nhre'r Llai ger y Trallwng.
Bydd yn rhaid i'r elusen dalu costau cyfreithiol o £6,000 i gyfreithiwyr y Gweinidog Cynllunio.
Yn wreiddiol fe wrthodwyd cais Mr Jones gan yr archwilydd cynllunio, ond fe gafodd y penderfyniad ei wyrdroi ar ôl i'r Gweinidog Cynllunio Carl Sargeant ystyried y mater.
Yn ôl Mr Sargeant, roedd manteision economaidd y cynllun yn fwy na'r ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Sefydlwyd grŵp ymgyrchu i wrthwynebu'r datblygiad. Roedden nhw'n dadlau y bydda'r parlwr odro yn rhy agos at ysgol a nifer o gartrefi. Roedd pryderon hefyd am faint y datblygiad ac effaith y parlwr ar yr amgylchedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2013
