Gwasanaeth Ambiwlans: 'tri mis i wella'
- Cyhoeddwyd

Ambiwlansys: 'Angen gwelliannau o fewn tri mis'
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi dweud wrth y Gwasanaeth Ambiwlans fod angen gwelliannau brys "o fewn tri mis" wedi i dargedau amser ymateb gael eu methu.
Ym mis Mai cyrhaeddodd 54.1% o ambiwlansys o fewn wyth munud ddigwyddiadau oedd yn bygwth bywyd tra oedd 56.7% ym mis Ebrill.
Y targed yw 65% a dywedodd gweinidogion bod y ffigyrau yn "siomedig iawn".
Derbyniodd y gwasanaeth 36,544 o alwadau ym mis Mai., dolen allanol
Dywedodd llefarydd: "Mae elfennau allweddol Adolygiad McClelland wedi cael eu rhoi ar waith.
"Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi uwchraddio ambiwlansys.
"Eisoes mae £ 7.5 miliwn ychwanegol wedi ei gytuno fydd yn caniatáu recriwtio mwy na 100 o staff rheng flaen."
'Methiant'
Wrth ymateb i'r ffigurau, dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd Darren Millar: "Er gwaethaf ymroddiad parafeddygon, mae cleifion yng Nghymru wedi profi bron i ddwy flynedd o wasanaeth brys is-safonol oherwydd diffyg buddsoddi gweinidogion Llafur a methiant i fynd i'r afael â chiwiau mewn adrannau argyfwng."
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: "Mae'n amlwg bod y llywodraeth wedi methu â chyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen."
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams: "Flwyddyn ar ôl blwyddyn, fis ar ôl mis, mae'r sefyllfa yn gwaethygu ond mae'r llywodraeth yn dal i fethu â gwneud dim am y peth.
"Mae angen gweithredu clir, pendant gan y llywodraeth ac mae angen ei wneud nawr cyn i hyd yn oed fwy o fywydau fod mewn perygl."
1,350 o alwadau'n fwy
Dywedodd Mike Collins Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi derbyn 1,350 o alwadau yn fwy na mis Ebrill a 1,700 o alwadau yn fwyn na mis Mai 2013.
"Mae cynnydd yn y math mwyaf difrifol o alwadau brys ac oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn rhai ysbytai wedi cael effaith ar ein hamseroedd ymateb i ddigwyddiadau," meddai.
"Rydym yn cydnabod ar adegau ein bod yn cyrraedd targed wyth munud ar gyfer galwadau mwyaf difrifol ac yn gweithio mor galed ag y gallwn i gyrraedd cleifion cyn gynted ag y bo modd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2014
