Damwain ffordd yr A548: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn damwain ffordd ar yr A548 rhwng Betws yn Rhos ac Abergele.
Un cerbyd, sef Citroen C3, oedd yn y ddamwain a ddigwyddodd tua 4.24pm ddydd Mercher yn Llanfairtalhaearn, tua hanner milltir o Ysbyty Abergele.
Nid yw enw'r dyn wedi ei gyhoeddi, ond rhoddwyd gwybod i'r crwner.
Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 101.