Dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi ymgasglu yng Nghastell Caerdydd ar gyfer y dathliadau
Mae gweithgareddau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Prydain ddydd Sadwrn i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Yn 2009 y cynhaliwyd Diwrnod y Lluoedd Arfog am y tro cyntaf.
Mae'n cydnabod cyfraniad y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'r rhai sy'n dal i wneud hynny, milwyr wrth gefn a chadetiaid.
Yng Nghymru, mae'r prif ddigwyddiad yng Nghaerdydd, lle y bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymuno ag aelodau cymuned y Lluoedd Arfog am barêd cyhoeddus trwy ganol y ddinas cyn rhoi darlleniad mewn gwasanaeth awyr agored i dalu teyrnged i'r lluoedd am eu cyfraniad a'u haberth.
'Cefnogi cymuned gyfan'
Yn ôl y prif weinidog, mae'r diwrnod yn "golygu mwy na chofio aberth milwyr rhyfeloedd a brwydrau'r gorffennol. Mae'n gyfle i gefnogi cymuned gyfan y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw.
"Mae ein dyled o ddiolch i aelodau a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn aruthrol. Mae eu hymroddiad a'u haberth yma a thros y dŵr yn helpu i warchod ein rhyddid a'n diogelwch".
Mae 2014 yn flwyddyn fawr gan ei bod yn ganmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a 70 mlwyddiant D-Day.
Lam Davey
Y mae eleni hefyd yn 70 mlwyddiant rhyddhau s-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd ym 1944. Cafodd 146 o filwyr o Gymru, aelodau'r 53fed Adran Troedfilwyr (Cymru), eu lladd yn y frwydr pan fu'r Cymry yn ymladd am bedwar diwrnod yn Hydref 1944 i ryddhau'r ddinas yn ne'r Iseldiroedd.
I gofio'r digwyddiad a'r cyfeillgarwch dwfn rhwng Cymru a s-Hertogenbosch, cyflwynir lamp Davey i'r Prif Weinidog oddi wrth y gofeb barhaol ym Mynwent y Milwyr Prydeinig yn s-Hertogenbosch.
Cludwyd y lamp i Gymru gan grŵp o feicwyr o'r ddinas a chaiff ei chyflwyno i'r Prif Weinidog gan Faer s-Hertogenbosch fel "symbol bod y rhai a laddwyd yn dod adre".
Ychwanegodd y Prif Weinidog, "Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni yn neilltuol o arwyddocaol gan ei fod yn coffáu nifer o ddyddiadau pwysig gan gynnwys rhyddhau s-Hertogenbosch pan gafodd cynifer o filwyr o Gymru eu lladd, a chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, gwrthdaro a gafodd ddylanwad anferth ar y Gymru fodern a'r byd.
"Rwy'n ymfalchïo o gael y cyfle hwn i arwain Cymru'n Cofio 1914-18, rhaglen Cymru ar gyfer cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2014
