Cynllun trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd 'mewn perygl'
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau ar y gweill i drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd a'r brif linell o Lundain i Abertawe
Mae Ysgrifennydd Cymru David Jones wedi cyhuddo gwleidyddion Bae Caerdydd o "beryglu" cynllun trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.
Daeth ei sylwadau mewn cynhadledd prosiectau isadeiledd yng Nghaerdydd.
Dadl Llywodraeth Prydain yw bod ganddyn nhw dystiolaeth mai Llywodraeth Cymru oedd wedi cytuno i dalu am gynllun trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yna dystiolaeth fod Llywodraeth Prydain wedi cytuno i dalu am y prosiect
Yn y gynhadledd dywedodd Ysgrifennydd Cymru: "Dwi'n poeni'n fawr fod eu safbwynt (Llywodraeth Cymru) yn golygu bod y cynllun trawsnewidiol hwn yn y fantol."
Bargen wedi ei tharo
Mae wedi honni bod trywydd dogfennau'n awgrymu'n gryf fod bargen wedi ei tharo y byddai Llywodraeth San Steffan yn talu am drydaneiddio lein y Great Western i Abertawe tra byddai Llywodraeth Cymru'n talu am drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.
Yn y cyfamser, honnodd Llywodraeth Cymru fod cyfweliad David Cameron â rhaglen Wales Today wedi awgrymu y byddai Llywodraeth San Steffan yn talu am drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.
Dywedodd y Gweinidog Cylllid Jane Hutt fore Llun ei bod yn siomedig bod Ysgrifennydd Cymru "yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol".
Ym Mawrth wedi cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn San Steffan honnodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones bod ymateb Llywodraeth Prydain i'w gwestiynau am gyllido'r prosiectau wedi cymhlethu'r sefyllfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2014
