Tân ar safle hen ysbyty Dinbych
- Cyhoeddwyd

Swyddogion ger safle'r tân yn hen ysbyty meddwl Dinbych
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i dân gynnau ar safle'r hen ysbyty meddwl yn Ninbych ddydd Mawrth.
Fe gawson nhw eu galw i'r safle am 08:04 a bu criwiau o Ruthun, yr Wyddgrug a'r Rhyl yn cynorthwyo gwasanaeth tân y dref.
Mae'n debyg fod y tân wedi effeithio ar dri llawr a'r to.
Erbyn canol y prynhawn, roedd y tân dan reolaeth.
Bythefnos yn ôl fe gyflwynodd y cyngor orchymyn prynu gorfodol ar gyfer yr ysbyty, sydd wedi bod ynghau ers 1995.
Mae'r adeilad wedi dirywio'n fawr ers hynny ac roedd y cyngor yn darogan y byddai'n costio bron i £1 miliwn i'w atgyweirio.