Creu 60 o swyddi yn Abertawe wrth i glwb ailagor
- Cyhoeddwyd

Bydd y clwb ar safle hen adeilad yr Odyssey'n agor ym Medi
Bydd cyn glwb nos yn Abertawe yn ailagor a 60 o swyddi'n cael eu creu.
Grŵp Luminar sy'n gwario £1.2m wrth adnewyddu hen adeilad yr Odyssey gaeodd yng nghanol y ddinas wyth mis yn ôl.
Dywedodd y cwmni y byddai'r clwb ar gyfer uchafswm o 1,700 yn Little Wind Street yn lle clwb yr Oceana.
Bydd y clwb newydd yn agor ym Medi ac mae cytundeb ar gyfer prydles 25 o flynyddoedd wedi cael ei lofnodi.
Dywedodd y cyfarwyddwr rhanbarthol Trevor Ellard: "Mae ein clybiau ni wedi bod yn y ddinas ers dros 30 mlynedd ac roedden ni am ddod o hyd i le arall pan gaeodd Oceana.
"Mae'r clwb newydd mewn lleoliad delfrydol ac yn gyfle i ni gynnig profiad gwahanol mi glybwyr."
Oceana oedd y clwb nos mwya' yn Abertawe.
Yn 2011 buddsoddwyr achubodd y clwb pan aeth hen glwb y Luminar i ddwylo'r gweinyddwyr.
Fe gaeodd y clwb ym Mai am ei bod yn anodd denu cwsmeriaid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2012
