Busnesau'n galw am beidio oedi mwy i gael ffordd M4 newydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y cynlluniau cyntaf i leihau tagfeydd eu cyflwyno yn 2004
Mae pedwar o brif sefydliadau busnes Cymru wedi ysgrifennu llythyr agored at Weinidog Trafnidiaeth Cymru yn galw am benderfyniad buan ar ffordd newydd i liniaru traffig yr M4.
Cafodd dogfen ymgynghorol ei gyhoeddi fis Medi'r llynedd.
Mae'r cyrff busnes, sy'n cynnwys CBI Cymru, am weld Edwina Hart yn cyflwyno'r prosiect gwerth £1 biliwn o amgylch Casnewydd heb unrhyw oedi pellach.
Mae tagfeydd traffig ar yr M4 yn broblem gyson i deithwyr a busnesau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai ateb hir-dymor ar gyfer hyn fyddai ffordd newydd.
Y ddadl gan y grwpiau busnes yw bod 'na ymgynghori eang wedi bod gyda'r atebion wedi eu cyflwyno ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.
Dim oedi pellach
Mae'r llythyr yn dweud nad yw Cymru angen ateb dros dro, yn hytrach mae angen "ateb hir-dymor cynaliadwy sy'n cryfhau economi Cymru" ac yn rhoi'r hyder a'r gallu i fusnesau dyfu a buddsoddi.
Yn y cyfamser mae Llywodraeth San Steffan wedi caniatau mynediad cynnar i bwerau benthyg er mwyn adeiladu'r ffordd ac maen nhw am weld Ms Hart yn cyflwyno'r cynllun heb oedi pellach.
Dadl CBI Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianneg (EEF) a Siambr Fasnach De Cymru yw bod y prosiect yn chwarae rhan allweddol yn ffyniant economaidd Cymru a bod hi'n "allweddol" bod y momentwm yn cael ei gynnal.
Mae'r ffaith bod yr M4 presennol rhwng Casnewydd a Chaerdydd yn anibynadwy yn cael effaith ar greu swyddi a masnach.
Dywed y llythyr bod y brif ffordd i mewn i dde Cymru "yn anaddas".
"Cafodd ei agor gyntaf yn 1867 fel ffordd ddeuol o draffordd ac mae'n cynnwys rhai o'r twneli hynnaf ar draffordd yn y DU."
Penderfyniad buan
Yn ystod yr ymgynghoriad fe drafodwyd sawl llwybr posib gyda rhai yn dadlau am fwy o drafnidiaeth gyhoeddus a phrosiectau llai.
Roedd dau o'r opsiynau yn cynnwys traffordd tair lon rhwng cyffordd 23 Magwyr a chyffordd 29 yng Nghas-bach.
Mae 'na wrthwynebiad amgylcheddol wedi bod ac mae disgwyl penderfyniad gan Ms Hart yn ystod yr haf.
Fe wnaeth y Canghellor George Osborne alw'r ffordd newydd fel "un o'r cynlluniau ffyrdd mwya' pwysig yn y DU".
Fe gafodd y cynlluniau cyntaf i leihau'r pwysau ar y ffordd sy'n dod i mewn i dde Cymru eu cyhoeddi yn 2004.
Ond bum mlynedd yn ddiweddarach fe wnaeth Llywodraeth Clymblaid Llafur-Plaid Cymru ym Mae Caerdydd roi'r cynlluniau i'r naill ochr pan ddaeth hi i'r amlwg bod yr amcan bris wedi codi i £1bn.
Er hynny mae gweinidogion San Steffan wedi cytuno y caiff gweinidogion Cymru fenthyca' arian sydd ei angen ar gyfer y cynllun.
Mewn ymateb i'r llythyr mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru yn dweud mai'r penderfyniad cywir sydd ei angen nid penderfyniad buan.
"Fydd y ffordd ddim yn dod i fodolaeth tan 2031 ar y cynhara' ac fe allai fod yn hwyrach oherwydd adolygiad barnwrol o ganlyniad i'r pryderon amgylcheddol."

Tri llwybr posib gan gynnwys yr un ddu, y brif ffordd ddrafft