Heddlu Abertawe yn apelio am wybodaeth wedi lladrad
- Cyhoeddwyd

Mae'r Heddlu yn Abertawe yn parhau i apelio am dystion ar ôl y lladrad
Mae'r heddlu yn Abertawe yn parhau i apelio am dystion ar ôl lladrad a ddigwyddodd toc ar ôl 10:30 dydd Sul Gorffennaf 13 ar Nyanza Terrace yn ardal Uplands y ddinas.
Roedd y ddioddefwraig 39 mlwydd oed yn cerdded ar hyd y stryd pan ddaeth dyn wedi ei arfogi a chyllell ati a mynnu arian.
Ar ôl y gwrthdrawiad, rhedodd y dyn i ffwrdd.
Mae'r dyn sy'n cael ei amau o ymosod ar y ddynes yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn yn ei 20au, gyda gwallt byr.
Roedd yn gwisgo top llwyd golau gyda phatrwm glas ar y blaen ac roedd yr 'hwd' wedi ei godi dros ei ben. Roedd hefyd yn gwisgo trowsus tracsiwt llwyd.
Wedi'r digwyddiad fe redodd y dyn ar hyd Ffordd Bryn Môr.
Awyddus i glywed
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh o Heddlu Dê Cymru: "Rydym yn falch gyda'r ymateb a gawsom gan y cyhoedd ar ôl ein hapêl gychwynnol ond rydym yn dal yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth i gynorthwyo ymchwiliad."
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 20 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond maen nhw'n dal yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â mwy o wybodaeth drwy gysylltu â CID Abertawe ar 01792 450618 neu 101 neu i gysylltu efo Taclo'r Taclau gan ddyfynu rhif digwyddiad 1400251683.