Heddlu: 'dim cynlluniau i ddychwelyd i Ynys Creta'
- Cyhoeddwyd

Does neb wedi gweld Arthur Jones ers Mehefin 19
Dywed swyddogion Heddlu Gogledd Cymru fu'n chwilio am Arthur Jones ar Ynys Creta nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i ddychwelyd.
Mae'r dyn 73 oed o Ddinbych wedi bod ar goll ers Mehefin 19, dau ddiwrnod ar ôl cyrraedd yr ynys ar wyliau.
Fe wnaeth swyddogion yr heddlu ac aelod o Dîm Achub Mynydd Gogledd Cymru ddychwelyd adre fore Sul ar ôl bod yn cynorthwyo'r awdurdodau i chwilio am Mr Jones am wythnos.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Evans:
"Does yna ddim cynlluniau i fynd yno eto. "Fe wnaethom dderbyn cynnig gan heddlu Gwlad Groeg i'w helpu nhw gyda'r gwaith.
"Yn amlwg pe bai'r un cynnig yn codi eto byddai'n rhaid i ni edrych ar y sefyllfa a gweld be allwn ni ei gynnig.
"Rydym ar hyn o bryd yn cefnogi aelodau o'r teulu, ac rydym yn gallu gwneud hynny yn well yn y DU."
Mae hyd at 30 o aelodau heddlu gwlad Groeg a gwirfoddolwyr wedi bod yn cynorthwyo.
'Anffawd'
Cafodd enw Mr Jones ei ddarganfod mewn llyfr ymwelwyr ar gyfer mynwent i filwyr o'r Ail Ryfel Byd.
Roedd wedi llofnodi'r llyfr ar Fehefin 18.
Mae'r teulu yn poeni fod posibilrwydd o ddrwgweithredu.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Evans nad oedd yna "unrhyw beth i gefnogi'r farn honno."
"Does neb yn dweud yn bendant na fu unrhyw ddigwyddiad o natur droseddol, ac mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei ystyried gan yr awdurdodau yno.
"Ond does dim byd i gefnogi'r farn. Mae'r ardal yn un lle mae troseddu yn isel. Does yna ddim cofnod o gyfres o ymosodiadau treisgar na lladrata na llofruddiaeth.
"Mae popeth yn ymddangos fel mai bwriad Arthur oedd i fynd am dro byr ar y diwrnod hwnnw. Ein teimlad ni yw bod rhyw anffawd wedi digwydd wrth gerdded, neu anffawd feddygol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2014
