Tân ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Diffoddwr tân yn mynd i'r afael â thân mewn adeilad ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
Mae diffoddwyr tân wedi mynd i'r afael â thân mewn adeilad ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn dilyn galwad am 04:24 bore Mercher.
Cafodd pedwar criw eu galw i ymateb i'r tân mewn eiddo masnachol ar Ffordd y Bont.
Aeth dau griw o Wrecsam, un o Johnstown ac un o'r Waun.
Ni chafodd neb ei anafu.